Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 7 Hydref 2015
Amser: 08.45 -
12.03
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3254
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jocelyn Davies AC (Cadeirydd) Peter Black AC Christine Chapman AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Julie Morgan AC Nick Ramsay AC |
Tystion: |
Nick Bennett, Ombwdsmon Cymru Cyhoeddus Cymru Susan Hudson, Swyddfa Ombwdsmon Cymru Cyhoeddus Cymru David Meadon, Swyddfa Ombwdsmon Cymru Cyhoeddus Cymru Martin Warren, Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr Jason Piper, Cymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig Kay Powell, Cymdeithas y Gyfraith Richard Beech, Glamorgan Law LLP |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Richard Bettley (Ymchwilydd) Helen Jones (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Lakshmi Narain – Cynghorydd Technegol |
1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai newidiadau.
Trawsgrifiad
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones AC.
2.3 Datganodd Peter Black AC y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
· Mae'r Aelod yn Gynghorydd ar Gyngor Dinas a Sir Abertawe
3.1 Nodwyd y papurau.
4.1 Bu'r Aelodau'n craffu ar waith Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, David Meaden, Cyfrifydd Ariannol, a Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu ar amcangyfrif Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2016-17.
4.2 Cytunodd yr Ombwdsmon i roi dadansoddiad i'r Pwyllgor o'r mathau o gŵynion tai a ddaeth i law.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a nodwyd y bydd adroddiad drafft yn cael ei baratoi i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 5 Tachwedd 2015.
7.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Martin Warren, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr a Jason Piper, Uwch-reolwr - Cyfraith Trethi a Busnes, Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig.
8.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Kay Powell, Cynghorydd Polisi, Cymdeithas y Gyfraith, a Richard Beech, Partner, Glamorgan Law LLP.
9.1 Derbyniwyd y cynnig.
10.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.